Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 15 Mai 2012 o dan adran 19(3)(b) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002, i'w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2012 Rhif (Cy. )

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion o ran arddangos prisiau cynhyrchion tybaco mewn lle yng Nghymru wrth gynnal busnes.

Mae rheoliad 1 yn darparu y bydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 3 Rhagfyr 2012 ar gyfer siopau mawr ac ar 6 Ebrill 2015 at bob diben arall.

Mae rheoliad 3 yn diffinio ystyr “lle” (“place”) at ddibenion adran 7C o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 (arddangosiadau: prisiau cynhyrchion tybaco). Fe'i diffiniwyd i olygu mangreoedd yng Nghymru lle y mae cynhyrchion tybaco yn cael eu gwerthu wrth gynnal busnes, ac eithrio mangreoedd sydd ond yn hygyrch i bobl sy’n ymhel â'r fasnach dybaco neu sy'n cael eu cyflogi ganddi, ac nad ydynt yn arddangos prisiau cynhyrchion tybaco mewn ffordd sy'n weladwy o’r tu allan i'r mangreoedd.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i arddangosiad o brisiau cynhyrchion tybaco mewn lle yng Nghymru gydymffurfio â'r gofynion a bennir yn y Rheoliadau. Mae rheoliad 5 yn gosod gofynion cyffredinol y mae’n rhaid iddynt gael eu bodloni gan bob arddangosiad o'r fath. Mae rheoliadau 6 i 8 yn gosod gofynion ychwanegol sydd i'w bodloni mewn perthynas â dull penodol o arddangos prisiau o'r fath. Mae’r dangosiadau am bris gwerthu cynhyrchion tybaco hefyd yn cael eu rheoleiddio gan Orchymyn Marcio Prisiau 2004.

Gall prisiau gael eu harddangos drwy un neu fwy o'r ffyrdd canlynol: drwy restrau prisiau, sy'n bodloni gofynion rheoliad 6; drwy restrau prisiau sydd ar gael ar gais, ac sy'n bodloni gofynion rheoliad 7; a, thrwy labeli ar unedau storio, sy'n bodloni gofynion rheoliad 8.

Mae rheoliad 9 yn cyfyngu ar gymhwyso'r Rheoliadau hyn i werthwyr tybaco arbenigol a swmpwerthwyr tybaco (fel y’u diffinnir yn rheoliad 2). Mae'r Rheoliadau ond yn gosod gofynion ar arddangos prisiau cynhyrchion tybaco gan y cyfryw fusnesau lle y byddai arddangosiad o’r fath yn weladwy o’r tu allan i'w mangreoedd.

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu am ddrafft o’r Rheoliadau hyn fel safon dechnegol, yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37), sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol, fel y’i diwygiwyd.  

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau tebygol o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Cwrs Bywyd, yr Is-adran Gwella Iechyd, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 15 Mai 2012 o dan adran 19(3)(b) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002, i'w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2012 Rhif (Cy. )

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012

Gwnaed                                                    ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 7C a 19(2) o Ddeddf  Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002([1]) a chan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993([2]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Gosodwyd drafft o'r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 19(3)(b)([3]) o Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco (Arddangos Prisiau) (Cymru) 2012 a deuant i rym—

(a)     at ddibenion siopau mawr, ar 3 Rhagfyr 2012;  a

(b)      at bob diben arall, ar 6 Ebrill 2015.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “arwynebedd perthnasol y llawr” (“relevant floor area”), mewn perthynas â siop, yw arwynebedd mewnol y llawr o gymaint o'r siop ag sy'n cynnwys, neu sy'n rhan o adeilad ond gan eithrio unrhyw ran o'r siop nad yw'n cael ei defnyddio ar gyfer gwasanaethu cwsmeriaid mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau nac ar gyfer arddangos nwyddau; ac

ystyr “siop fawr” (“large shop”) yw siop lle y mae  arwynebedd perthnasol y llawr yn fwy na 280 o fetrau sgwâr.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw  le ac unrhyw gerbyd, llestr, hofrenfad, stondin neu adeiledd symudol;

ystyr “nodwedd arall” (“other feature”) yw logo, nod masnach, symbol, arwyddair, teip, lliw neu batrwm lliw, llun, celfwaith, delweddau, ymddangosiad, neges neu unrhyw ddangosiad arall sy'n ffurfio’r cyfan neu ran o hunaniaeth adnabyddadwy cynnyrch, ond nad yw'n cynnwys cod bar neu rif stoc;

ystyr “pecyn” (“package”) yw unrhyw flwch, carton neu gynhwysydd arall;

ystyr “pecyn gwreiddiol” (“original package”) yw'r pecyn y cyflenwyd y sigaréts neu’r tybaco rholio â llaw ynddo at ddibenion manwerthu gan y gweithgynhyrchwr neu’r mewnforiwr ac mae “wedi ei becynnu ar gyfer ei werthu” (“packaged for sale”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “rhestr brisiau” (“price list”) yw rhestr o brisiau’r cynhyrchion tybaco sydd fel arfer yn cael eu cynnig i’w gwerthu yn y lle y mae rhestr o’r fath yn cael ei harddangos neu ei rhoi ar gael;

ystyr “siop” (“shop”) yw unrhyw fangre lle y cynhelir masnach neu fusnes sy'n cynnwys, yn gyfan gwbl neu’n bennaf, gwerthu nwyddau;

ystyr “swmpwerthwr tybaco” (“bulk tobacconist”) yw siop sy'n gwerthu cynhyrchion tybaco (p'un a yw'n gwerthu cynhyrchion eraill neu beidio) o ran o'r siop (“y man tybaco”) (“the tobacco area”) lle nad yw'r cynhyrchion tybaco yn weladwy o’r tu allan i’r man hwnnw ac y mae ei gwerthiannau sigaréts neu dybaco rholio â llaw, a fesurir yn unol â pharagraff (2), yn cydymffurfio â'r amodau canlynol—

(a)     bod o leiaf 90% o'i gwerthiannau sigaréts yn rhai mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu o 200 o sigaréts neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol, a bod y gweddill mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu o 100 o sigaréts neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol; a

(b)      bod o leiaf 90% o’i gwerthiannau tybaco rholio â llaw yn rhai mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu sy’n pwyso 250 gram neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol, a bod y gweddill mewn sypiau wedi eu rhagbecynnu sy’n pwyso 125 gram neu fwy yn eu pecyn gwreiddiol;

ystyr “uned storio” (“storage unit”) yw gantri, cabinet neu uned, hambwrdd, silff neu unrhyw gynnyrch arall lle y cedwir cynnyrch tybaco tra’n aros am ei werthu.

(2) Mae’r gwerthiannau y cyfeirir atynt yn y diffiniad o “swmpwerthwr tybaco” i’w mesur yn ôl y pris gwerthu—

(a)     yn ystod y cyfnod mwyaf diweddar o ddeuddeng mis y mae cyfrifon ar gael ar ei gyfer; neu

(b)      yn ystod y cyfnod ers sefydlu'r siop, os nad yw wedi ei sefydlu'n ddigon hir i’r cyfrifon ar gyfer deuddeng mis fod ar gael.  

Ystyr “lle”

3. At ddibenion adran 7C o'r Ddeddf, ystyr “lle” (“place”) yw mangre yng Nghymru lle y mae cynhyrchion tybaco yn cael eu cynnig i'w gwerthu wrth gynnal busnes, ac eithrio mangre—

(a)     sydd ond yn hygyrch i bersonau sy'n ymhel â busnes sy'n rhan o'r fasnach dybaco neu sy'n cael eu cyflogi gan fusnes o'r fath; a

(b)      lle nad yw prisiau'r cynhyrchion tybaco yn weladwy o'r tu allan i'r fangre.

Arddangos prisiau cynhyrchion tybaco

4.(1)(1) Mae'r gofynion a bennir isod yn gymwys at ddibenion adran 7C o'r Ddeddf.

(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 9, bydd arddangosiad o brisiau cynhyrchion tybaco mewn lle—

(a)     ym mhob achos, yn cydymffurfio â'r gofynion cyffredinol a bennir yn rheoliad 5, a

(b)     yn cydymffurfio â'r gofynion a bennir yn—

                           (i)    rheoliad 6 (mewn perthynas â rhestrau prisiau),

                         (ii)    rheoliad 7 (mewn perthynas â rhestrau prisiau sydd ar gael ar gais), neu

                       (iii)    rheoliad 8 (mewn perthynas ag arddangos prisiau ar unedau storio).

(3) Pan fo arddangosiad o brisiau cynhyrchion tybaco mewn lle hefyd yn gyfystyr â hysbyseb at ddibenion y Ddeddf, mae i’w drin, os yw'n cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau hyn, fel arddangosiad o brisiau ac nid fel hysbyseb at ddibenion tramgwyddau o dan y Ddeddf.

Gofynion cyffredinol ar gyfer arddangos prisiau cynhyrchion tybaco

5. Mae’r gofynion o ran arddangosiad o brisiau cynhyrchion tybaco fel a ganlyn—

(a)     ei fod yn cael ei gyfyngu i'r wybodaeth ganlynol mewn perthynas â chynhyrchion tybaco—

                           (i)    enw brand y cynnyrch,

                         (ii)    pan fônt wedi eu rhagbecynnu, nifer yr unedau yn y pecyn neu, pan fônt yn cael eu gwerthu yn ôl pwysau, pwysau net y cynnyrch,

                       (iii)    o ran sigârs yn unig, gwlad y tarddiad a'r dimensiynau,

                        (iv)    o ran tybaco pib yn unig, y toriad a'r math o dybaco a ddefnyddir, a 

                          (v)    pris y cynnyrch([4]);

(b)     ei fod yn cael ei brintio—

                           (i)    mewn teip Helvetica du plaen ar gefndir gwyn,

                         (ii)    mewn teip sydd o faint sy'n gyson drwy'r testun cyfan, a

                       (iii)    mewn teip â llythrennau bach ac eithrio bod llythyren gyntaf gair yn cael bod mewn teip â phriflythyren; ac

(c)     ac eithrio fel y darperir fel arall gan reoliad 7(1)(e), bod rhaid iddo beidio â chynnwys unrhyw nodwedd arall.

Rhestrau prisiau

6.(1)(1) Y gofynion yw—

(a)     bod yr arddangosiad o brisiau cynhyrchion tybaco ar ffurf rhestr brisiau; a

(b)     bod y rhestr brisiau—

                           (i)    yn dwyn y teitl dwyieithog “Rhestr o brisiau cynhyrchion tybaco / Tobacco products price list”, a

                         (ii)    yn cael cynnwys is-benawdau dwyieithog ar gyfer “sigaréts / cigarettes”, “tybaco rholio â llaw / hand-rolling tobacco”, “sigârs / cigars”, “tybaco pib / pipe tobaccos”, a “chynhyrchion tybaco eraill / other tobacco products”, 

                       (iii)    yn un nad yw'n cynnwys prisiau unrhyw gynhyrchion eraill;

                        (iv)    wedi ei geirio â nodau nad ydynt yn uwch na 7 milimetr,

                          (v)    heb ymyl na ffrâm,

                        (vi)    heb fod yn fwy na 1250 o gentimetrau sgwâr ei faint, a

                      (vii)    wedi ei gyfyngu o ran nifer yn unol â pharagraff (2).

(2) Mae’r rhestr brisiau i’w chyfyngu o ran nifer i un rhestr brisiau ar gyfer pob man ar wahân lle y mae cynhyrchion tybaco yn cael eu lleoli a lle y gellir talu amdanynt.

Rhestrau prisiau: ar gael ar gais yn unig

7.(1)(1) Y gofynion yw—

(a)     bod yr arddangosiad o brisiau cynhyrchion tybaco ar ffurf rhestr brisiau sy’n cael ei rhoi ar gael i unigolyn 18 oed neu drosodd yn dilyn cais penodol gan yr unigolyn am wybodaeth am y cynhyrchion tybaco sydd ar werth yn y lle y mae’r cais hwnnw’n cael ei wneud;

(b)     bod pob cam rhesymol yn cael ei gymryd i sicrhau bod yr unigolyn sy'n gwneud cais o'r fath yn 18 oed neu drosodd cyn bod arddangosiad o'r fath yn cael ei wneud;

(c)     bod yr arddangosiad yn parhau am gyfnod nad yw'n hwy na’r amser y mae ei angen i’r unigolyn gael yr wybodaeth yr oedd yn chwilio amdani;

(d)     bod maint y geiriau ar y rhestr brisiau yn golygu nad oes unrhyw nod yn fwy na 4 milimetr ei uchder;

(e)     mai'r unig nodwedd arall sy'n cael ei arddangos yw llun o'r union gynnyrch tybaco, fel y cafodd ei becynnu ar gyfer ei werthu, lle nad yw maint llun o'r fath yn fwy na 50 o gentimetrau sgwâr; ac

(f)      bod y rhestr brisiau yn cael ei chyfyngu o ran  nifer i—

                           (i)    un rhestr brisiau ar gyfer pob man ar wahân lle y mae cynhyrchion tybaco yn cael eu lleoli a lle y gellir talu amdanynt, neu

                         (ii)    pan fo mwy nag un til mewn unrhyw leoliad o'r fath, un rhestr brisiau ar gyfer pob til o'r fath.

(2) At ddibenion paragraff (1)(b), mae person yn cael ei drin fel un sydd wedi cymryd pob cam  rhesymol i gadarnhau bod yr unigolyn yn 18 oed neu drosodd, os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir—

(a)     na fyddai wedi bod yn rhesymol i neb amau o olwg yr unigolyn fod yr unigolyn o dan 18 oed; neu

(b)     bod y person wedi gofyn i'r unigolyn am dystiolaeth ynglŷn â’i oedran ac y byddai'r dystiolaeth wedi argyhoeddi person rhesymol.

Unedau storio

8. Y gofynion yw—

(a)     bod pris y cynnyrch tybaco yn cael ei arddangos ar uned storio lle y cedwir y cynnyrch penodol hwnnw tra’n aros am ei werthu;

(b)     bod arddangosiad o'r fath—

                           (i)    wedi ei eirio â nodau nad ydynt yn uwch na 4 milimetr; a

                         (ii)    heb fod yn fwy na 9 centimetr sgwâr ei faint; ac

(c)     wedi ei gyfyngu o ran nifer i un arddangosiad ar gyfer pob lleoliad ar wahân mewn uned storio lle y cedwir cynnyrch tybaco penodol.

Gwerthwyr tybaco arbenigol a swmpwerthwyr tybaco

9.(1)(1) Ac eithrio fel y darperir ym mharagraffau (2) a (3), nid yw'r Rheoliadau hyn y gymwys i werthwyr tybaco arbenigol([5]) na swmpwerthwyr tybaco.

(2) Rhaid i arddangosiad o brisiau cynhyrchion tybaco sydd yn weladwy—

(a)     o'r tu allan i fangre gwerthwr tybaco arbenigol, neu

(b)     o'r tu allan i fan tybaco swmpwerthwr tybaco,

gydymffurfio â gofynion paragraff (3).

(3) Y gofynion o ran arddangosiad o'r fath yw—

(a)     bod rhaid iddo gydymffurfio â'r gofynion cyffredinol a bennwyd yn rheoliad 5,

(b)     bod rhaid iddo gydymffurfio â gofynion rheoliad 6(1)(a) a (b)(i) i (vi), ac

(c)     yn cael ei gyfyngu o ran nifer i un arddangosiad ar gyfer pob mangre.

 

 

 

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad



([1])           2002 p.36. Mewnosodwyd adran 7C i Ddeddf Hysbysebu a Hyrwyddo Tybaco 2002 gan adran 21 o Ddeddf Iechyd 2009 (p.21).

([2])           1993 p.38.

([3])           Amnewidiwyd adran 19(3)(b) gan adran 24 o Ddeddf Iechyd 2009 a pharagraff 11(1) a (4) o Atodlen 4 iddi.

([4])           Mae dangos pris gwerthu pob cynnyrch, gan gynnwys cynhyrchion tybaco, yn cael ei reoleiddio gan Orchymyn Marcio Prisiau 2004 (O.S. 2004/102).

([5])           Gweler adran 6(2) a (3) o'r Ddeddf i gael y diffiniad o “specialist tobacconist”.